Hanes
Hanes
Mae Eglwys y Santes Fair yn Llanfair Talhaiarn yn fan sanctaidd ac arbennig iawn, wedi ei drwytho mewn hanes.
Er fod gwreiddiau manwl gywir yr eglwys yn parhau i fod yn destun o ddyfalu, mae’r fersiwn a gefnogir orau yn awgrymu fod gan Sant Talhaearn gell yma yn ystod y pumed ganrif OC.
Yn ôl llawysgrifau Iolo (detholiad o lawysgrifau Cymreig hynafol, ar ffurf rhyddiaeth a phennillion, o’r casgliad a wnaethpwyd gan y diweddar Edward Williams (adnabyddwyd fel Iolo Morgannwg). Bu Talhaearn yn gonffeswr i Emrys Wledig, yr arweinydd rhyfel Romano-Brydeinig, Ambrosius, a ymladdodd yn erbyn y Sacsonau. Pan laddwyd ei noddwr, fe drodd yn feudwy ac ymgartrefu yma yng Ngogledd Cymru.
Fersiwn arall o’r hanes yw fod Talhaearn wedi bod yn fynach yn Abaty Valle Crucis ger Llangollen, a’i fod wedi ffoi oddi yno yn dilyn ffrae. Mae Sant Talhaearn wedi’i gredydu gyda chyfansoddiad ‘Gweddi’r Orsedd’, sy’n parhau i gael ei ddefnyddio mewn cyfarfodydd barddol hyd heddiw.
Gan symud ymlaen i 1274 OC mae cofnod o’r Prebendri lleol, Ithel Vychan (uwch aelod o Eglwys Anglicanaidd neu Catholig Rufeinig), ac yn 1291 talwyd trethi gan ‘Ecclesia de Lanveyrdalhaern’ - yr un flwyddyn y cafodd Vychan ei olynu gan David ap Llywarch.
Yn amlwg, y mae nifer helaeth o newidiadau i strwythur adeilad yr eglwys, gydag ailadeiladu ac adfer cyson. Mae’r adeilad presennol yn dyddio yn ôl i oddeutu 1600 OC ac mae cerrig meini wedi’i arysgrifio o’r flwyddyn 1623. Disodlwyd y to gwellt gyda llechi yn 1734 ac adeiladwyd galeri yn 1755. Yn y cyfnod hwn, roedd seddau blwch a phulpud gyda chanopi.
Wrth i ailadeiladu sylweddol, o dan arweinyddiaeth y pensaer John Aldred Scott ddigwydd yn 1839 ac yn 1876, golygir fod yr eglwys a welir heddiw yn dra wahanol i’r gwreiddiol, gydag ychydig iawn o’r nodweddion blaenorol y parhau. Er hyn, mae coed canoloesol i’w canfod yn y to bwa.
Mae cofnodion diddorol o lyfr Warden yr Eglwys 1719-1774 yn dangos fod Esgob Madoks wedi bedyddio 974 person ‘o sawl plwyf’ yn 1738. Mae’r gofrestr hefyd yn cofnodi priodas Thomas Edwards (Twm o’r nant) gyda Elizabeth Hughes yn 1763 gyda Evan Evans (Ieuan Fardd) yn gweinyddu - digwyddiad hynod lenyddol.
Yn parhau gyda’r thema lenyddol, sylwer fod y gofeb ragorol yn y fynwent yn fedd i John Jones (Talhaiarn) - ein bardd mwyaf enwog a diweddar.
Cerddwch o amgylch yr eglwys gan droi i’r chwith tuag at y wal Orllewinol. Yma fe welwch nifer o gofebau ar y wal yn dyddio fwyaf o’r 19eg ganrif, gyda nifer o’r rhain yn cofnodi hanes deuluol y Wynniaid, perchnogion stad gyfagos Garthewin.
Mae’r bedyddfaen, wedi’i leoli ar ochr Orllewinol yr eglwys yn Fictorianaidd. Oddi mewn i furiau’r eglwys, mae dwy fowlen fedydd hynafol, a fyddai wedi cael eu defnyddio mewn cyfnodau cynt.
Ar y wal yng nghornel Gogledd Orllewinol yr eglwys mae plac cymwynasau sy’n nodi cyfraniadau gan bobl leol i gefnogi ysgol yn yr ardal.
Mae’r bedyddfaen, wedi’i leoli ar ochr Orllewinol yr eglwys yn Fictorianaidd. Oddi mewn i furiau’r eglwys, mae dwy fowlen fedydd hynafol, a fyddai wedi cael eu defnyddio mewn cyfnodau cynt. Ar y wal yng nghornel Gogledd Orllewinol yr eglwys mae plac cymwynasau sy’n nodi cyfraniadau gan bobl leol i gefnogi ysgol yn yr ardal.
Yn y man hwn, sylwch ar ddau ddrws pren cudd sy’n cuddio ffont drochi prin ac anghyffredin a osodwyd yn y 1840au. Er nad yw wedi profi defnydd yn ystod blynyddoedd diweddar, fe fyddai wedi bod yn fan i nifer o seremoniau bedydd wedi iddo gael ei osod.
Ar biler ar ochr chwith y gangell fe welir wyneb gyntefig ddiddorol wedi’i gerfio o garreg. Mae ei wreiddiau yn ansicr ond credir iddo darddu o’r Canol Oesoedd a gallai fod wedi’i ddefnyddio wreiddiol fel corbel strwythurol.
Crewyd y ffenestr lliw ddwyreiniol hardd gan Henry Gustav Hiller, a chafodd ei ariannu gan William Price, er cof am ei wraig.
Ar y wal ddeheuol ger yr allor gwelir cofeb i Cyrnol William Wynne, gydag arysgrif Lladin. Lladdwyd Cyrnol Wynne ym Mrwydr Wem yn 1643 - cyswllt i gyfnod cythryblus y 17eg ganrif.
Lleolir mwy fyth o hanes o dan y lloriau sydd wedi’i carpedu - ymhle mae nifer o gerrig beddau yn cofnodi marwolaethau uchelwyr lleol
Mynwent yr eglwys
Lle i archwilio - mae ein pamffled ddarluniadol yn darparu gwybodaeth gynhwysfawr i ymwelwyr wrth iddynt grwydro ac archwilio.
Ar naill ochr i’r prif lwybr/mynedfa’r eglwys lleolir dwy goeden ywen hynafol. Credir i’r lleiaf o’r ddwy, ar yr ochr dde, ddyddio o’r 13eg ganrif.
Mae mynwent ein heglwys yn cael ei ofalu amdano a’i gynnal gan wirfoddolwyr, a thros y 3 mlynedd ddiwethaf, mae wedi’i ddatblygu fel ardal natur sy’n agored i ymwelwyr. Erbyn hyn, gellir mwynhau dôl o flodau gwyllt, gwesty trychfilod a grewyd gan ddisgyblion yr ysgol leol a meinciau gyda bwrdd ymhle y gall ymwelwyr fwynhau picnic tra’n mwynhau yr olygfa dros y pentref a’r afon. Mae bocsys nythu a llecynnau bwydo yn atynu nifer fawr o adar amrywiol. Yn achlysurol, gellir gweld madfallod di-goes a mwydod araf yn crwydro ymysg y glaswellt hir.
Mae’r nifer o gerrig beddau gweladwy yn y fynwent o bwysigrwydd hanesyddol nodweddol ac yn darparu mewwelediad i fywydau trigolion lleol dros y canrifoedd; gyda’r carreg fedd hynaf wedi’i ddyddio’n 1736 a’r diweddaraf tua diwedd yr 1870au. Un cofeb arwyddocaol yw bedd John Jones (a’i enw barddol, Talhaiarn) a oedd yn Fardd enwog yn y 19eg ganrif, ac a anwyd yn y pentref ac a fu farw yn ei gartref gerllaw yr eglwys yn 1869.
Mae pamffledi darluniadol ‘Croeso i Eglwys y Santes Fair’ ac ‘Ein Mynwent gwledig’ ar gael ar gyfer ymwelwyr sy’n cynnwys y wybodaeth hyn, a mwy.