Digwyddiadau a Hysbysiadau
Digwyddiadau a Hysbysiadau
Mae’r eglwys a’r fynwent wedi darparu lleoliad i nifer o ddigwyddiadau cymunedol yn rheolaidd.
Mae Ysgol Talhaiarn, wedi’i leoli 150 metr i fyny’r ffordd, wedi defnyddio yr eglwys ar gyfer eu gwasanaethau Nadolig. Mae’r disgyblion hefyd wedi bod yn rhan annatod o brosiectau sydd wedi ymchwilio i hanes a threftadaeth yr eglwys, a’r natur o fewn mynwent yr eglwys.
Adeg y Nadolig 2019, bu cyfle i holl ddisgyblion yr ysgol ymweld a’r eglwys a chreu llusernau cyn gorymdeithio gyda’u llusernau mewn ‘Gŵyl o Oleuadau’ o amgylch y pentref, a chanu carolau yn sgwar y pentref.
Yn 2020, er i’r eglwys orfod cau ei ddrysau, addurnwyd y coed tu allan i’r eglwys gyda channoedd o angylion papur a grewyd gan holl ddisgyblion Ysgol Talhaiarn.
Mae Helfeydd Wyau Pasg, Ffeiriau Haf, Partion Gardd a Diwrnod Natur-ar y cyd â Ymddiriedaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru, ynghyd â Chyngherddau Cerddorol ymysg y nifer o weithgaerddau sydd wedi eu cynnal yn yr eglwys a’r fynwent yn ystod y tair mlynedd ddiwethaf.