Gwasanaethau
Gwasanaethau
Ar hyn o bryd, mae gwasanaethau eglwys ynghyd â gweithgareddau eraill yn ddarostyngedig i ganllawiau Covid. Mae’r eglwys ar gau i ymwelwyr, ond mae’r fynwent yn parhau i fod ar agor.
Gwasanaethau:
Cynhelir yn wythnosol:
Sul 1af a 3ydd yn y mis - Gweddi Boreuol
2il a 4ydd Sul yn y mis - Ewcharist Sanctaidd
Os oes 5ed Sul yn y mis, cynhelir Gwasanaeth ar y cyd yn Eglwys Sant Sannan, Llansannan neu yn Eglwys Sant Digain, Llangernyw. Mae gan Eglwys y Santes Fair gysylltiadau agos gyda’r Eglwysi hyn.
Mae croeso cynnes i bawb i’r holl wasanethau hyn. Ar ddiwedd pob gwasanaeth, darperir lluniaeth ysgafn lle y ceir cyfle i gymdeithasu a chael sgwrs.
Cynhelir prynhawn ‘Eglwys Blêr’ yn yr eglwys unwaith y mis ar gyfer plant oedran cynradd.
Cynhelir Cyfarfodydd Cymrodoriaeth yn fisol.
O dan amgylchaiadau arferol, byddai Eglwys y Santes Fair ar agor pob dydd trwy’r flwyddyn rhwng 9.00 - 5.00.
Petai’r eglwys yn digwydd bod ar gau pan mae rhywun yn dymuno ymweld gellir cysylltu yn uniongyrchol gyda wardeniaid yr eglwys neu Maryann Williams ar 01745 720307.
Mae’r Eglwys ymysg adeiladau mwyaf hynafol y pentref, sy’n cynnwys, o fewn muriau’r eglwys a’r fynwent allanol dreftadaeth pentref Llanfair Talhaiarn a’r ardal gyfagos.