Amdanom ni
Rheithor/ Rector: Reverend Gwenda Cooper
Mae’r Rheithor Gwenda Cooper wedi byw yn Llangernyw ers dros 35 mlynedd. Yn dilyn ei ordeiniad yn 2011, bu’n guradur yn Eglwys St John’s, Hen Golwyn hyd nes i ninnau ei chroesawu fel offeiriad ar gyfer Eglwysi Y Santes Fair, Sant Sannan, Llansannan a Sant Digain, Llangernyw yn 2018.
Cysylltu/ Contact on 01745 860349 or brodigain@googlemail.com
Mae Eglwys y Santes Fair yn rhan o Ardal Genhadaeth Aled, sy’n cynnwys 17 o eglwysi o fewn esgobaeth Llanelwy. Mae gan yr Ardal Genhadaeth arweinydd a dau warden. Mae gennym ni ddwy is-warden:
Mrs Eirwen Davies a Mrs Ruth Davies.
Cefnogi ni
Cynlluniau y dyfodol:
Yn dilyn cwblhau y prosiect a ariannwyd gan y Loteri Dreftadaeth i drwsio’r to a’r wal Orllewinol yn 2018, mae gan yr eglwys gynlluniau pellach yn y dyfodol. Y bwriad yw i’r eglwys gynnig ei hyn fel adeilad i gynnal nifer o weithgareddau er budd y gymuned gyfan, ac nid felly yn unig ar gyfer addoli. Mae darluniau pensaer eisoes wedi’i paratoi ac mae caniatad wedi’i dderbyn ar gyfer gosod toiled hygyrch, cegin fechan ac ar gyferr creu gwagle addas i’w ddefnyddio ar gyfer cymdeithasu a galluogi i’r eglwys gynnal nifer o ddigwyddiadau nad yw o’r blaen wedi bod yn bosib. Yn ogystal, bydd gwelliannau ar gyfer mynediad i’r fynwent trwy ddatblygiad llwybr lletach a fydd yn addas i gadeiriau olwyn ynghyd â mynediad gwell i ben y fynwent trwy adeiladu grisiau. Mae’r grŵp sy’n arwain adferiad a datblygiad yr Eglwys yn gweithio’n ddiwyd i godi cronfa ddigonol ar gyfer y datblygiadau hyn, ac yn ddiolchgar iawn i’r gymuned am eu cefnogaeth.
Mae Grŵp Ffocws fechan wedi’i sefydlu gan aelodau o’r gymuned wedi’i sefydlu i feithrin a sefydlu cysylltiadau gyda sefydliadau gwirfoddol eraill o fewn y pentref. Mae Staff a disgyblion Ysgol Talhaiarn eisoes wedi cyfrannu nifer o syniadau ynglyn â sut y gellir defnyddio yr eglwys, ac mi fyddent yn ymwneud yn agos ag unrhyw benderfyniadau.
Y DYFODOL:
Mae’r cyfyngiadau cyfredol sydd wedi bod yn eu lle ers Mawrth 2020 wedi golygu nad ydyw wedi bod yn bosib i gynnig digwyddiadau i’r gymuned fel y byddem wedi ei ddymuno. Fodd bynnag, cyn gynted ag y bydd y cyfyngiadau wedi’i lleddfu, bydd cynlluniau yn cael eu creu ar gyfer sicrhau y bydd yr eglwys yn agored i bawb pan y dymunir ymweld.
Am wybodaeth pellach, cysylltwch â:
maryannwilliams8@icloud.com neu 01745720307.