Croeso i Eglwys y Santes Fair, Llanfair Talhaiarn.
Croeso i Eglwys y Santes Fair, Llanfair Talhaiarn.
Safai Eglwys y Santes Fair uwchben pentref hardd Llanfair Talhaiarn. Cynulleidfa fechan a chroesawgar sydd gan yr eglwys, sy’n gweithio’n ddiwyd i sicrhau fod yr eglwys yn adnodd gweithredol ar gyfer y gymuned yn Llanfair Talhaiarn. Lleolir pentref Llanfair Talhaiarn oddeutu 5 milltir o dref Abergele, Conwy, ar arfordir Gogledd Cymru.
Mae’r eglwys, ynghyd â’r ysgol, yn sefyll ar y bryn uwchben canol y pentref. Mae’n tarddu o’r 13eg Ganrif pan gafodd ei gysegru i’r Santes Fair. Digwyddodd adferiadiadau sylweddol yn ystod y 19eg Ganrif. Yn y fynwent, mae bedd y bardd a’r pensaer enwog, John Jones -1810-1869. (enw barddol-Talhaiarn). Mae corff ddwbl i’r eglwys ynghyd â ffenestr liw hynod ddeniadol ynghyd â nifer o gofebau o’r 19eg ganrif i deuluoedd lleol. Mae nodweddion diddorol eraill yn cynnwys Ffont Drochi (1849), powlen ffont hynafol ym mhorth yr eglwys, modrwy cysegredig yn y drws sy’n hanu o’r 17eg Ganrif ac organ eglwys safonol (1880).
Mae’r Eglwys yn rhan annatod o fywyd y pentref, ac fe gaiff ei ddefnyddio ar gyfer gwasanaethau a chyngherddau gan yr ysgol gynradd leol; priodasau, gwasanaethau bedydd, angladdol cyngherddau ynghyd â nifer o ddigwyddiadau eraill. Mae Ysgol Talhaiarn eisoes wedi treulio amser yn yr eglwys ac yn y mynwentydd yn dysgu am dreftadaeth yr eglwys gan ffocysu hefyd ar yr adnoddau naturiol sydd gan y mynwent i’w gynnig, ac mae nifer o brosiectau eraill ar y gweill yn y dyfodol. O fewn y fynwent, sydd wedi’i amgylchynnu gan wal gerrig, mae dwy goeden ywen hynafol, ynghyd â nifer helaeth o gerrig beddi sy’n adlewyrchu hanes y pentref.
Bydd trefniadau cynllun gwelliant yn y dyfodol yn sicrhau’r ychwanegiad o doiled ar y safle, ynghyd â chyfleusterau cegin fechan, diweddariad i’r system gwresogi a chreu gwagle ehangach ar gyfer digwyddiadau cymdeithasol ym mhen gorllewinol yr eglwys. Yn ychwanegol i hyn, bydd grisiau yn cael eu creu i fyny ochr serth y fynwent a llwybr lletach yn cael ei greu o gwmpas yr eglwys er mwyn sicrhau mynediad hwylus i bawb.